1. Ein hallbwn

BBC Cymru Wales yw prif ddarparwr newyddion a materion cyfoes ar deledu, radio ac ar-lein yng Nghymru.

Ar deledu, mae gwasanaeth BBC Wales Today yn cynnwys bwletinau bore, amser cinio, prynhawn a hwyr yn ogystal â rhaglen 30 munud o hyd am 1830, sef y rhaglen newyddion teledu gyda’r nifer uchaf o wylwyr yng Nghymru. Mae’r rhaglen 1830 yn rhan o awr o newyddion integredig ar BBC One sy’n cynnwys newyddion y byd, y DU a Chymru.

BBC Cymru sy’n cynhyrchu Newyddion ar gyfer S4C. Mae’r gynulleidfa ar gyfer y brif raglen min nos, Newyddion 9 wedi cynyddu ers ei hail-lansio yn 2013; mae’r rhaglen yn cynnwys newyddion y DU a’r byd ond mae’r pwyslais cryf ar straeon o Gymru a’r brandio yn adlewyrchu hunaniaeth weledol S4C.

Mae gwasanaeth ar-lein BBC Cymru yn y Saesneg yn rhan o wasanaeth BBC News sydd ar gael ar y wefan a thrwy ap pwrpasol. Mae straeon neilltuol o Gymru’n cael eu cynnwys ym mynegai Cartref a’r DU tudalennau’r BBC, tra bod mynegai Cymru’n cynnwys gwasanaeth newyddion Cymreig mwy cynhwysfawr, gyda newyddion, erthyglau a dadansoddi. Yn y Gymraeg, mae gwasanaeth ar-lein BBC Cymru Fyw yn cynnwys amrywiaeth o newyddion ac erthyglau ac mae’r gynulleidfa wedi tyfu’n sylweddol ers ei lansio. Mae Newyddion BBC Cymru hefyd yn darparu gwasanaethau newyddion ar Facebook a Twitter, yn Gymraeg ac yn Saesneg.  

Mae newyddion yn rhan anhepgor o’n dwy orsaf radio genedlaethol, BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales, ac maent yn darlledu bwletinau newyddion a rhaglenni trwy gydol y dydd. Mae gan Radio Cymru dair rhaglen newyddion ddyddiol – y rhaglen ben bore Post Cyntaf, y rhaglen sy’n rhoi llais i’r gwrandawyr, Taro’r Post a’r rhaglen newyddion min nos Post Prynhawn. Mae rhaglenni newyddion Radio Wales, Good Morning Wales a Good Evening Wales ar yr awyr am bum awr, bum niwrnod yr wythnos, ac maent yn cynnig darpariaeth o newyddion o Gymru, y DU a’r byd.

Mae ein gwasanaethau newyddion dyddiol yn cael eu creu gan ystod o dimau cynhyrchu arbenigol ynghyd â chriw casglu newyddion sy’n cynnwys gohebwyr arbenigol, tîm o ohebwyr a newyddiadurwyr gwleidyddol a rhwydwaith o newyddiadurwyr sy’n gweithio ledled Cymru o ganolfannau ym Mangor, Wrecsam, Aberystwyth, Caerfyrddin ac Abertawe.  

Trosolwg o’r gynulleidfa

Ar gyfartaledd 265,000 yw maint cynulleidfa bwletin BBC Wales Today am 6.30pm bum noson yr wythnos. Dyma’r gynulleidfa fwyaf yng Nghymru ar gyfer unrhyw raglen newyddion ar unrhyw sianel deledu neu orsaf radio, ac mae fymryn yn uwch na’r gynulleidfa yng Nghymru ar gyfer y Six O’Clock News ar BBC1 (260,000). 185,00 ar gyfartaledd yw cynulleidfa bwletin hwyrach BBC Wales Today am 10.30pm bob nos, gyda’r gynulleidfa amser cinio yn 155,000.

Ar S4C, mae cynulleidfa Newyddion 9 wedi cynyddu eto eleni i 21,000 ar gyfartaledd, gan ddangos apêl y straeon Cymreig sy’n ffocws i’r rhaglen. Mae cynulleidfa bwletinau tri munud Wales Today a Newyddion yn 1.5m a 65,000 o wylwyr yn y drefn honno.

Ar y radio, mae cyfartaledd gwrandawyr Good Morning Wales ar Radio Wales yn 62,000 yn ystod y cyfnod brig am 8am, gyda’r Post Cyntaf ar Radio Cymru yn denu 28,000. Mae’r cynulleidfaoedd cyfatebol fin nos (am 5pm) yn 17,000 i Good Evening Wales a 12,000 i Post Prynhawn.

Mae rôl hanfodol newyddion o Gymru ar deledu a radio yn y ddwy iaith yn cael ei hamlygu gan y ffaith mai rhaglenni newyddion bore BBC Cymru sy’n denu’r cynulleidfaoedd mwyaf yn ystod yr wythnos waith i Radio Wales a Radio Cymru, a bod cynulleidfa Wales Today a Newyddion yn uwch na’r cynulleidfaoedd cyfartalog yn ystod oriau brig BBC1 Wales ac S4C. Mae cynulleidfaoedd ar-lein o reidrwydd yn cael eu mesur yn wahanol gan ein bod yn cyfrif nifer y defnyddwyr mewn wythnos, ac ni allwn gyfrif defnyddwyr yng Nghymru ar wahân, felly mae’r rhain yn ffigurau ar gyfer y DU gyfan.

Mae 2.4m o borwyr unigryw yn ymweld â safle Newyddion ar-lein BBC Cymru bob wythnos, gyda’r lefel yn ddibynnol iawn ar faint o straeon newyddion o Gymru sydd i’w gweld ar brif safle newyddion y BBC. Yn y Gymraeg, mae cyfartaledd defnyddwyr BBC Cymru Fywyn 53,000 o borwyr unigryw yr wythnos. 10,000 oedd y ffigwr hwnnw ar gyfartaledd – ar gyfer tudalennau newyddion - cyn lansio gwasanaeth Cymru Fyw.

(Mae’r ffigyrau yma yn rhai wythnosol ar gyfartaledd dros 12 mis a'r rhai diweddaraf sydd ar gael)

Fel y gwelir gyda ffigyrau cynulleidfaoedd newyddion rhwydwaith y BBC, mae gwasanaethau newyddion radio a theledu BBC Cymru yn apelio at wylwyr a gwrandawyr hŷn gan fwyaf, gyda thri chwarter y gwylwyr a’r gwrandawyr dros 45 oed. Yn gyferbyniol, fodd bynnag, mae bron i ddwy ran o dair o gynulleidfa newyddion ar-lein BBC Cymru o dan 45 oed, sy’n dangos y rôl ategol mae gwasanaethau ar-lein BBC Cymru yn ei chwarae wrth gyrraedd cynulleidfaoedd newydd a chynulleidfaoedd sy’n tyfu yng Nghymru.

Mae gan newyddion y BBC enw da sefydledig ac mae’n arwain y blaen dros gystadleuwyr allweddol o ran ymddiriedaeth, cywirdeb ac am fod yn ddi-duedd. 

Ein strategaeth

Mae darparu gwasanaeth newyddion o safon uchel sy’n gosod yr agenda yn rhan hanfodol o wasanaeth y BBC i’r gynulleidfa yng Nghymru. Gan gydnabod rôl allweddol newyddiaduraeth i gyflawni ei bwrpas cyhoeddus, mae BBC Cymru wedi cynyddu ei fuddsoddiad mewn newyddion a materion cyfoes yn ystod y pum mlynedd diwethaf mewn cyfnod pan oedd setliad ffi’r drwydded yn golygu gostyngiad real yn incwm y BBC.

Fel rhan o setliad ail-fuddsoddi’r siarter newydd rydym am gynyddu ein buddsoddiad yn ein gwasanaeth newyddion ymhellach er mwyn datblygu ein newyddiaduraeth arbenigol a’n gallu i gyrraedd cynulleidfaoedd nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol ar hyn o bryd. Byddwn yn canolbwyntio ein hymdrechion ar ddefnyddio holl wasanaethau’r BBC yng Nghymru, gan gynnwys gwasanaethau lleol a’r rhwydwaith.

Mae pwysigrwydd cynyddol platfformau digidol a’n gallu i gyrraedd demograffeg iau trwy ein gwefan a phlatfformau cymdeithasol wedi bod yn faes holl bwysig yn y blynyddoedd diweddar. Rydym wedi ymroi i ddarparu mwy o ddeunydd pwrpasol ar gyfer ein cynulleidfaoedd digidol ac rydym yn parhau i arbrofi â ffurf newydd o gyflwyno straeon.  

Yn y Gymraeg, mae ein profiad o ddatblygu gwasanaethau fel BBC Cymru Fyw a Newyddion, wedi dangos fod cynulleidfaoedd yn gwerthfawrogi cynnwys unigryw sy’n ategu’r gwasanaethau Saesneg, yn hytrach na gwasanaethau sy’n ceisio efelychu gwasanaethau Saesneg cyfatebol.

Newyddiaduraeth leol a gweithio mewn partneriaeth

Mae ymdrechion y BBC yn y maes hwn yn canolbwyntio ar ddau gynllun allweddol: News Hub a’r Gwasanaeth Gohebu Democratiaeth Leol (Local Democracy Reporting Service). Mae’r ddau gynnig hwn yn golygu buddsoddiad o tua £8 miliwn y flwyddyn ledled y DU, ac mae’n bartneriaeth newydd ac unigryw a fydd yn hybu cenhadaeth gyhoeddus y BBC i wasanaethu cynulleidfaoedd lleol, a thwf ac esblygiad y sector cyfryngau newyddion masnachol. 

News Hub

Bydd y BBC yn sicrhau fod cynnwys ar gael i’w ddefnyddio ar unwaith ar wasanaethau rhyngrwyd cwmnïau newyddion lleol a rhanbarthol ledled y DU. 

Bydd pob darn o gynnwys fideo a sain a gynhyrchir gan dimau newyddion y BBC yn y cenhedloedd ac yn lleol ar gael i ddarparwyr eraill trwy’r News Hub. Yn amodol ar hawliau a thrafodaethau pellach â’r diwydiant rydym hefyd yn gobeithio rhannu fersiynau hwy o gynnwys sydd heb eu darlledu, fel cyfweliadau chwaraeon a chynadleddau i’r wasg. 

Byddai’n hawdd i  sefydliadau newyddion eraill chwilio am gynnwys, gan olygu bod modd lawrlwytho deunydd perthnasol neu ei ymgorffori o fewn eu gwefannau eu hunain. Trwy rannu cynnwys am straeon lleol, fe sicrheir gwerth am arian i’r rhai sy’n talu ffi’r drwydded. Mae hefyd yn cynnig cynnwys ychwanegol gan alluogi cwmnïau newyddion i gryfhau eu cynnig i gynulleidfaoedd heb godi pris ychwanegol. Byddwn hefyd yn parhau i wella y ffordd y mae BBC Online yn cysylltu â dolenni allanol, gan adeiladu ar waith Local Live. (BBC British Bold Creative, https://downloads.bbc.co.uk/aboutthebbc/reports/pdf/futureofthebbc2015.pdf)

Mae gwaith yn parhau i gwblhau’r manylebau technegol. Mae’r cynnyrch yn amodol ar gaffael a bydd y gofynion thechnegol allan i dendr cyn hir.

Yng Nghymru, rydym yn rhagweld y byddwn yn rhannu ein cynnwys yn Saesneg a Chymraeg. 

Y Gwasanaeth Gohebu Democratiaeth Leol / cynlluniau partneriaeth eraill

Bydd 150 o ohebwyr lleol yn cael eu hariannu gan y BBC ac yn cael eu cyflogi gan gwmnïau newyddion lleol cymwys i adrodd ar waith awdurdodau lleol a gwasanaethau cyhoeddus. Mae’r fframwaith a grëwyd yn rhagweld y gallai’r nifer hwn godi i 200 yn 2019.

Yng Nghymru, rydym yn rhagweld y bydd 11 o swyddi’n cael eu creu – gyda phob unigolyn yn rhoi sylw i ddwy ardal awdurdod lleol.   

Fel rhan o Siarter newydd y BBC yn 2017 fe fydd y cytundeb yn mynd ati i geisio cynnal a chefnogi lluosogrwydd yn y cyfryngau newyddion lleol, hybu ansawdd y gwasanaethau a defnyddio arbenigedd y BBC a’r sector newyddion fasnachol leol er budd y gynulleidfa. 

4.3 Priodoli newyddion 

Mae BBC Cymru hefyd yn chwarae rhan bwysig wrth gyfeirio cynulleidfaoedd at wasanaethau newyddion dibynadwy tu hwnt i’r gorfforaeth. Ym mis Mawrth cafwyd ychydig dros hanner miliwn o gliciau ar ddolenni allanol ar dudalennau newyddion Cymru ar-lein, a’r prif gyrchfannau oedd y Daily Post, y South Wales Argus a Wales Online (ffynhonnell: comScore Dax). 

Yn ogystal â phwyslais parhaus ar gydnabyddiaeth mwy eglur, bydd yna  archwiliad annibynnol yn cael ei gynnal ar y cyd i ddarganfod faint o ddefnydd o gynnwys y wasg leol a wneir gan y BBC ar ei blatfformau neu fel arall. Bydd casgliadau yr archwiliad annibynnol yn sail i adolygiad o ymdrechion y BBC i wella dolenni ac i gydnabod  straeon a ffynonellau.